British Council logo

E+ Marketing Manager, Operations and Events

British Council
2 days ago
Full-time
Hybrid (United Kingdom)
United Kingdom
General Marketing

Rydym yn cefnogi heddwch a ffyniant drwy feithrin cysylltiadau, dealltwriaeth ac ymddiriedaeth rhwng pobl yn y DU a gwledydd ledled y byd. Ers 90 mlynedd rydym wedi bod yn helpu i siapio dyfodol mwy disglair drwy addysg, y celfyddydau, diwylliant, iaith, a chreadigrwydd.

Rydym yn gweithio gyda phobl mewn dros 200 o wledydd a thiriogaethau, ac ar lawr gwlad mewn dros 100 o wledydd.

Yn cysylltu. Yn ysbrydoli.

Teitl y Rôl:

Rheolwr Marchnata ar gyfer rhaglen Erasmus+ - Gweithrediadau a Digwyddiadau 48548

Mae Adran Addysg Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi mai’r British Council fydd yn gweithredu fel yr Asiantaeth Genedlaethol ar gyfer rhaglen Erasmus+.

Ym mis Rhagfyr, daeth y Deyrnas Unedig a’r Undeb Ewropeaidd i gytundeb gwleidyddol y byddai’r DU yn ail ymuno â chynllun Erasmus+ yn 2027. Mae'r cytundeb hwnnw bellach wedi'i ffurfioli’n gyfreithiol dan Gytundeb Masnach a Chydweithrediad yr UE a’r DU.

Mae gan y British Council ymrwymiad ers tro byd i gefnogi cyfnewid rhyngwladol. Bu’n un o bartneriaid arweiniol Asiantaeth Genedlaethol Erasmus+ yn y DU rhwng 2014 a 2020. Yn ystod y cyfnod hwnnw, gwnaeth Erasmus+ gyfraniad arwyddocaol i gysylltiadau diwylliannol y DU, gan ariannu 8,091 o brosiectau, gyda 583,757 o drigolion y DU yn cymryd rhan, a chan ddyfarnu tua €1.1 biliwn i sefydliadau yn y DU.

Band Cyflog: Gradd 7

Cyflog: £30,839 gros y flwyddyn + £3,300 y flwyddyn - Lwfans Ardal Llundain (i weithwyr yn ardal Llundain yn unig)

Hyd y cytundeb: Cytundeb Cyfnod Penodol o 2 Flynedd, gyda phosibilrwydd o estyniad

Lleoliad: Caerdydd, Llundain, Belfast a Chaeredin

Gofynion Hawl i Weithio: Hawl gyfredol i weithio yn y DU. Nid yw’r British Council yn gallu cefnogi ceisiadau am fisas gwaith.

Dyddiad Cau i geisiadau: 24 Awst am 22:59 (amser y DU)

Rydym yn gweithredu ar y sail bod unrhyw gynnig swydd yn amodol ar gadarnhad gan y cleient fod cyllid ar gael ganddynt.

Pwrpas y Rôl:

Bydd deiliad y rôl yma'n arwain y gwaith o ddatblygu a chyflawni digwyddiadau, cynllunio gweithredol, a chydlynu marchnata ar gyfer rhaglen Erasmus+, gan sicrhau bod gweithgareddau'n cael eu cyflawni'n effeithlon, yn gyson, ac yn unol â'r safonau y cytunwyd arnynt.

Byddant hefyd yn gyfrifol am oruchwylio’r gwaith o reoli digwyddiadau, cydlynu cyflenwyr, tracio cyllidebau, ac adrodd ar weithrediadau i gefnogi cyflawni’r rhaglen yn effeithiol.

Prif Gyfrifoldebau:

  • Arwain y gwaith o gynllunio, hyrwyddo a chyflawni digwyddiadau, gweminarau, a gweithgareddau ymgysylltu â rhanddeiliaid i sicrhau’r cyfranogiad a'r effaith orau bosibl.
  • Cydweithio gydag arweinwyr busnes a thimau sector i sicrhau bod digwyddiadau a gweithgareddau marchnata’n cyd-fynd ag amcanion, blaenoriaethau, ac amserlenni’r rhaglen.
  • Datblygu cynnwys ac asedau hyrwyddo trawiadol i gefnogi gweithgareddau marchnata a chyflawni digwyddiadau yn ogystal â gweithgareddau dilynol ar ôl y digwyddiad.
  • Rheoli cysylltiadau â chyflenwyr allanol, partneriaid, a siaradwyr i sicrhau ein bod yn cyflwyno digwyddiadau o ansawdd uchel.
  • Hybu profiad y mynychwr drwy gasglu adborth, gwerthuso canlyniadau, a gwneud gwelliannau.
  • Monitro, tracio, ac adrodd ar gyfranogiad, ymgysylltiad, metrigau estyn allan, a pherfformiad cyffredinol digwyddiadau.
  • Cynnal a rheoli llinellau gwaith digwyddiadau, adnoddau tracio, byrddau gwaith (dashboards), cyllidebau, llifoedd gwaith, a systemau adrodd i sicrhau cydlyniad a chyflawniad effeithiol.
  • Cydlynu mewnbynnau traws-adrannol gan dimau marchnata, digidol, ymgysylltu â rhanddeiliad, a busnes, i sicrhau cyflawni ymgyrchoedd a gweithgareddau integredig.
  • Sicrhau cydymffurfiaeth â chanllawiau brand, gofynion llywodraethu data, polisïau marchnata, a phrosesau rheoli cyllidebau.
  • Dadansoddi data perfformiad, gwerthuso effeithiolrwydd marchnata, meincnodi canlyniadau, a nodi cyfleoedd ar gyfer gwelliant parhaus ac arloesedd.

Gwybodaeth a Phrofiad Penodol i'r Rôl:

Hanfodol

  • Profiad o ddatblygu a chyflawni digwyddiadau (ar-lein ac wyneb yn wyneb)
  • Profiad o weithio gyda nifer o wahanol randdeiliaid a chyflenwyr i gydlynu cyflawniad gwaith neu brosiect
  • Profiad o lunio a chyflawni strategaethau a chynlluniau marchnata i gefnogi rhaglenni / darpariaethau.

Dymunol

  • Profiad yn y sectorau diwylliant, ieuenctid, chwaraeon, hyfforddiant, addysg neu elusennol
  • Profiad mewn sefydliad rhyngwladol neu fyd-eang
  • Profiad o weithrediadau marchnata, cynllunio ymgyrchoedd, neu dracio perfformiad
  • Profiad o gomisiynu cynnwys
  • Profiad o ddefnyddio platfform digwyddiadau Cvent

Gofynion Penodol

  • Gradd mewn marchnata, cyfathrebu neu bwnc perthnasol, neu lefel gyfatebol o brofiad y gellir ei dangos

Mae’r British Council yn cefnogi dulliau newydd o weithio (fel gweithio hybrid), yn amodol ar gymeradwyaeth lawn gan y rheolwyr llinell ac ar ein gallu i ddarparu lefel briodol o wasanaeth. Efallai na fydd hyn yn briodol ar gyfer pob rôl, ond gellir trafod y posibiliadau mewn cyfweliad

Teyrnas Unedig gysylltiedig a dibynadwy mewn byd sy'n fwy cysylltiedig a dibynadwy.

Datganiad Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

Rydym wedi ymrwymo i gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ac yn croesawu ceisiadau o bob rhan o'r gymuned, gan ein bod yn credu fod gweithlu amrywiol yn rhoi mwy o ddyfnder i'n gwaith. Mae'r Cyngor Prydeinig yn Gyflogwr Hyderus o ran Anabledd. Mae'r cynllun Hyderus o ran Anabledd yn helpu i herio agweddau, cynyddu dealltwriaeth o anabledd, a sicrhau bod staff yn cael eu dewis o'r gronfa dalent ehangaf bosibl. Rydym yn gwarantu cyfweliad i ymgeiswyr anabl sy'n bodloni gofynion sylfaenol y rôl. Rydym yn hapus i drafod unrhyw ofynion neu addasiadau penodol sydd eu hangen i'ch galluogi i gymryd rhan yn ein gwaith a’n gweithgareddau.

Datganiad Diogelu

Mae’r British Council wedi ymrwymo i ddiogelu plant, pobl ifanc ac oedolion rydym yn gweithio gyda nhw. Rydym yn credu fod pob plentyn ac oedolyn ym mhob rhan o'r byd yn haeddu byw mewn amgylchedd diogel, a bod hawl ganddynt i gael eu hamddiffyn rhag unrhyw fath o niwed, camdriniaeth neu gamfanteisio, fel y nodir yn Erthygl 19 o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP) 1989. Bydd penodiadau i swyddi lle mae cysylltiad uniongyrchol â grwpiau agored i niwed yn amodol ar wiriadau trylwyr yn unol â gofynion cyfreithiol ac â pholisiau Diogelu Oedolion a Phlant y British Council.

Os cewch unrhyw anawsterau wrth gyflwyno'ch cais, anfonwch e-bost atom yma: [email protected]